Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Hydref 2017
Amser:
08.50 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4313
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru Chris Jones, Deputy Chief Medical Officer for Wales, Llywodraeth Cymru Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Sara Jermin, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 822KB)
Gweld fel HTML (380KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC; nid oedd
dirprwy yn bresennol.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwnaethant gytuno i ddarparu'r canlynol:
· y cyfrifiadau sy'n sail i'r £10 miliwn ychwanegol a fyddai ar gael i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dilyn y datganiad ar 18 Hydref ar Gyllid i Fyfyrwyr;
·
nodyn am farn Prifysgolion ar
Fagloriaeth Cymru.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn holi'r Comisiynydd ynghylch ei Hadroddiad Blynyddol.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn yn rhoi
enghreifftiau o Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant sydd wedi
arwain at newid cadarnhaol.
4.1 Nodwyd y papur.